R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin? OAQ(4)1475(FM)W
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyhoeddi targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer mewnfuddsoddi?OAQ(4)1476(FM)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru?OAQ(4)1462(FM)
4. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch Cychwyn Iach Cymru i wneud ceir yn ddi-fwg pan mae plant yn teithio ynddynt? OAQ(4)1473(FM)
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?OAQ(4)1477(FM)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ffermio yn rhostiroedd Brycheiniog a Sir Faesyfed?OAQ(4)1471(FM)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru?OAQ(4)1470(FM)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1464(FM)
9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r modd y mae llywodraeth leol yn cydymffurfio â Chynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig? OAQ(4)1469(FM)
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe?OAQ(4)1461(FM)
11. David Rees (Aberafan):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sbarduno twf economaidd yng Nghymru?OAQ(4)1480(FM)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at driniaethau’r GIG yng Nghymru? OAQ(4)1463(FM)
13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau trais domestig?OAQ(4)1465(FM)
14. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng nghyswllt addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)1478(FM)W
15. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau sydd ganddo i adolygu cyfnodau swyddi Comisiynwyr ac Ombwdsmyn? OAQ(4)1472(FM)